Taith #2
Awst 5, 2018
Cilgerran–Poppit
Gwarchodfa natur Cors Teifi, ar hyd yr Afon Teifi, i draeth Poppit. Tywyswyd yr artistiaid gan yr hanesydd Glen Johnson.
- Manon Awst
- Geiriau
- Abby Poulson
- Lluniau
- Project Locus
- Cerddoriaeth
Afon Teifi
Rhedwn ar ôl cysgod Cilgerran
ar ddiwrnod crasboeth o Awst,
ymhell o ddathlu’r ddinas fawr
ar hyd aber melyn Teifi.
Hwyliasant ymaith o fan hyn,
hen gymuned a hen arbenigedd,
a’u traddodiadau bellach
yn rwbel dan ein traed.
Rhwng y brwyn a’r eog
daw cwch bach glas,
a rhwyd i dorri rheolau.
Arnofa elyrch wedyn,
eu gyddfau main yn ddarnau gwasgar
bwa’r bont a fu.
Wrth gerdded drwy Landudoch
tuag at Draeth Poppit
daw sibrwd carreg ateb
dros y dŵr drwy’r dail.
Ac yn y man daw ein siwrne i ben,
a thwf newydd
yn ymestyn tua’r gorwel
wrth i ni drochi’n y môr mawr.