Taith #1
Penberi–Porth Mawr
Penberi, o gwmpas Penrhyn Dewi, i draeth Porth Mawr. Tywyswyd yr artistiaid gan Ian Meopham, Parcmon gyda Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda chymorth yr hanesydd Hedd Ladd-Lewis, ac Archeolegydd Cymunedol y Parc, Delun Gibby.
- Elan Grug Muse
- Geiriau
- Owain Pedr Williams
- Lluniau
- Owain Griffiths
- Trac Sain
Y Lôn i Bennsylvania
Y lôn o flaen tai Maes y Mynydd, neu Pennsylvania fel y gelwir ef gan rai.
Ac un dydd, bydd ein lonydd ninnau
fel y lôn i Bennsylvania’n
redyn tal at ein pengliniau.
Y lonydd yn colli eu henwau,
a’u cyffyrdd, a’u troadau,
a’u harwyddion a’u goleuadau.
Y tarmac wedi hollti’n ddarnau,
wedi'i wasgu’n dynn gan wreiddiau
gruwlys gwyllt a bloda neidr.
Bydd y tai, a’u pennau iddynt
yn swatio’n wargam rhag y gwynt
yng nghoflaid draenen wen.
A bydd y lonydd hyn i rwla’
yn lonydd coll, yn mynd i n'unlla,
fel y lôn i Bennsylvania,
yr heol hir i Bennsylvania.
Rhwng Carn Llidi a’r môr
Rhwng Carn Llidi a’r môr
mae’r tir wedi ei wasgu
yn rhychau a phocedi
yn feidr, a mwni,
yn ogofau a thwyni
ac yn lwybrau dyfnion, cul.
A rhwng Carn Llidi a’r môr,
maen nhw’n cario brics Porthgain
mewn sachau, ac yn dwyn hwylbrennau
gefn lliw nos, o’r traethau
i’w troi’n drawstiau a phentanau.
Mae’r mynaich mewn cycyllau llwyd
yn cerdded o Dŷ Ddewi
er mwyn syllu dros y dŵr ar Enlli
a rhoi gweddi yn y glaw.
Mae Methodistiaid Treledydd
a Bedyddwyr Llangloffan
yn smyglo baco
draw o’r Werddon.
Rhwng Carn Llidi a’r môr,
mae’r tir yn gwasgu,
diferion o hanes
yn wlith dros y mwni.
Penrhyn Dewi
i. Falco peregrinus
Mae’n bygwth glaw.
Ac fel blaen chwip,
dros ymyl clogwyn,
mewn eiliad sydyn
mae’n ymddangos
yn esgyn ar frig awel
cyn plymio,
yn ddarn o blwm trwy ddŵr
yn ôl o’n golwg.
ii. Haematopus ostralegus
Mae cerrynt y sianel
yn troelli’n linellau
main, rhedynog
ar yr wyneb,
yn gadwen wen
am wddw’r bae.
Yn enaid unig,
fe dorra hon ei chwys
tan gysgod Trwyn y Dduallt,
ei sgrech yn torri’r niwl fel nodwydd,
gan dynnu ei hedau arian ei nodau
i frodio’r niwl
â phwythau miniog
cyn i’r niwl ei llyncu eto’n
un llond ceg.
iii. Phalacrocorax carbo
Daeth y glaw
i syrthio’n drwm ar wrychoedd,
gwair, a dail, a chroen.
Ac ar graig islaw
fe saif hi’n syllu am Iwerddon
gan ystyried Pethau Mawr y byd;
cerrynt thermohaline,
diwinyddiaeth,
gwerth y bunt.
Gwna ystum, fel Iesu Grist ar groes;
ac mae hi eisiau cael ei chosi, eisiau teimlo
ofn, a chariad,
fel pawb arall.
Llynedd, fe wyliodd yr Ysbryd Glan
yn dianc o Dy Ddewi, ac yn disgyn mewn i’r môr
a throi yn Forgi.
Roedd hi’n sant ac ysgolhaig
mewn bywyd arall.
Eleni, mae hi’n syllu am Iwerddon,
yn methu’n lan a chofio pam.
iv. Halichoerus grupys
Ac wrth i’r gwynt gusanu’r dŵr
yn dyner, fel cusan boch babi
mae’n gyrru chwa o egni
yn don fach drwy’r dŵr llwyd.
Cwyd pen o’r lli, yn llyfn a du,
ei lygaid yn fy nal o bell,
ac mae’n rhyfeddu
ar weld creadur deugoes, trwsgl
yn codi pen tros ymyl craig
mor agos at y lan.
mae’n cyfri’i lwc
iddi ddigwydd gweld fy nghorryn
dros y rhedyn, ac mae’n dotio
o ngweld innau
fel petawn i’n ei gwylio hithau nol.
v. Fulmarus Glacialis
Yng nghapel oer y creigiau
mae’n amser seiat, y gwylain
o’r sêt fawr yn dweud y drefn.
Daw hi fel llafn
heibio ladis llwyd-fratiog
colomennod cwynfanus y graig.
Ar adain lefn
lwyd-finiog,
gadawa ffysian
prysur Craig yr Afr
o’i hol
yn anffyddwraig, a’r diawl
yn cuddio’n ei siôl.